Mae gennym ddwy ystafell wely gyda ystafell ymolchi ei hunain. Maen’t yn braf gyda nenfwd uchel, yn draddodiadol ond yn gyfoes hefyd oherwydd y paent gwyn a’r dodrefn derw golau, a golygfeydd o gefn gwlad.
Twr ydy enw un, gan ichi allu gweld Mynydd Twr Caergybi drwy’r ffenest, a Garn ydy’r llall, Mynydd yn Llanrhuddlad.
Mae’r ddwy ystafell yn faint dwbl moethus, gyda gwely maint ‘king’ ymhob un, mae gan Twr soffa sy’n troi’n wely hefyd, perffaith i oedolyn bychan arall neu blentyn, gallwn hefyd roi gwely ‘campio’ yn unrhyw un o’r stafelloedd.
Mae cawod yn yr ystafelloedd ymolchi.
Peiriant goffi a tecell ymhob stafell.
Dillad gwely a thoweli yn y pris.
Brecwast cartref llawn ar gael o 8yb.
Sychwr gwallt yma.
Haearn smwddio a bwrdd ar gael wrth ofyn.
Er nad yw’r perchnogion yn byw yma, maen’t ar gael dros y ffôn 24awr.
Mae gan yr ystafelloedd fynedfa arwahan i’r bwyty a siop, a gan NAD yda ni’n dy tafarn ni fydd swn hwyr yn y nos, ond mae’r dewis yno ichi fwyta gyda ni gan i’r lle bwyta agor a gweini bwyd a diod ar Nos Iau i Sadwrn, a mae gennym drwydded alcohol.