Mam a Merch sydd yma ers 2019, wedi bron i bymtheg mlynedd o redeg busnesau arwahan.
Mae’r run cred gan y ddwy, i weini cynnyrch lleol fel prydau cartref blasus.
Cafodd Annest ei mhagu o amgylch bwyd, gan i’w mham fod yn gogydd brwd tra’n athrawes gwyddor cartref, cyn rheoli sawl busnes arlwyo, gyda Annest yn gweithio gyda hi ers yn ddim o beth, tra’n y Brifysgol a rhwng swyddi yn y cyfryngau.
Mae’n well gan Annest fod yn y tu blaen, yn croesawu cwsmeriaid, gyrru archebion, a marchnata y busnes, tra fod Gwenan yn hapus iawn yn ei chegin, yn creu ryseitiau cyfoes o rai traddodiadol, wedyn mae’r ddwy yn creu bwydlenni gyda’i gilydd, tra fod Annest yn gwirio ansawdd y blas!
Mae’r tîm yn creu popeth yn ffres yn defnyddio’r cynnyrch lleol gorau.
Blas, ansawdd a chyflwyniad sy’n bwysig iawn iddy nhw, a’r sialens barhaol yw dod a rhywbeth newydd at y bwrdd.
Mae Blas Mwy yn ddihangfa pleserus o fywyd prysur a dim ond deugain munud o’r tir mawr, mae tîm cwbl Gymraeg yn aros i’ch croesawu.